Zechariah 6

Gweledigaeth 8 – Pedwar cerbyd rhyfel

1Edrychais eto, a'r tro yma roedd pedwar cerbyd rhyfel yn dod i'r golwg rhwng dau fynydd – mynyddoedd o bres. 2Ceffylau fflamgoch oedd yn tynnu'r cerbyd cyntaf, ceffylau duon yr ail, 3ceffylau gwynion y trydydd, a cheffylau llwyd yr olaf. Roedden nhw i gyd yn geffylau rhyfel cryfion.

4Dyma fi'n gofyn i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth ydy'r rhain, syr?” 5A dyma'r angel yn ateb, “Dyma bedwar gwynt
6:5 gwynt neu ysbryd. Mae'r gair Hebraeg yn golygu'r naill neu'r llall.
y nefoedd wedi eu hanfon allan gan Feistr y ddaear gyfan.
6Mae'r cerbyd gyda'r ceffylau duon yn mynd i gyfeiriad y gogledd
6:6 gyfeiriad y gogledd Mae'r gogledd yn cael ei gysylltu â Babilon, gan mai o'r cyfeiriad hwnnw y daeth Babilon i ymosod ar Jwda – gw. 2:6-7
, a'r rhai gwynion i'r gorllewin. Ac mae'r cerbyd gyda'r ceffylau llwyd yn mynd i'r de
6:6 de Byddai'r de yn cynrychioli'r Aifft.
.”
7Roedd y ceffylau cryfion i'w gweld yn ysu i fynd allan ar batrôl drwy'r ddaear. A dyma'r Meistr yn dweud wrthyn nhw, “Ewch! Ewch allan ar batrôl drwy'r ddaear gyfan.” Felly i ffwrdd â nhw.

8Yna dyma fe'n galw arna i, “Edrych! Mae'r rhai sydd wedi mynd i dir y gogledd wedi tawelu fy ysbryd i yno.”

Coroni Jehoshwa

9Dyma'r Arglwydd yn rhoi'r neges yma i mi: 10“Mae Cheldai, Tobeia a Idaïa newydd ddod yn ôl o Babilon. Dos ar unwaith i dŷ Joseia fab Seffaneia, a derbyn y rhoddion mae'r bobl sy'n y gaethglud wedi ei anfon gyda nhw. 11Cymer arian ac aur i wneud coron frenhinol a'i gosod ar ben Jehoshwa fab Iehotsadac, yr archoffeiriad. 12Yna dywed wrtho, ‘Mae'r Arglwydd holl-bwerus yn dweud,

Edrych! Mae'r dyn sy'n cael ei alw y Blaguryn yn blaguro!
Mae'n mynd i adeiladu teml yr Arglwydd.

13Ie, fe sy'n mynd i adeiladu teml yr Arglwydd! Bydd yn cael ei arwisgo, ac yn eistedd mewn ysblander fel brenin ar ei orsedd. A bydd offeiriad yn rhannu ei awdurdod, a'r ddau ohonyn nhw yn cytuno'n llwyr gyda'i gilydd. 14Yna bydd y goron yn cael ei chadw yn nheml yr Arglwydd i atgoffa Cheldai, Tobeia, Idaïa a Joseia
6:14 Joseia Felly'r Syrieg; Hebraeg,  Chen, sef "yr un hael" – llysenw ar Joseia falle (gw. adn.10)
fab Seffaneia.

15“‘Bydd pobl yn dod o bell i adeiladu teml yr Arglwydd. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai'r Arglwydd holl-bwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi. Bydd hyn i gyd yn digwydd os byddwch chi wir yn ufudd i'r Arglwydd eich Duw e.’”

Copyright information for CYM